O wel, yr etholiad cyn belled a 'dwi yn y cwestiwn wedi cychwyn.
Canfasio stad Maesincla, nid y lle cryfaf i'r Blaid yn yr etholaeth o bell ffordd. 'Dwi'n digwydd adnabod y stad yn weddol dda oherwydd i'r hen go gael ei fagu arni, ac 'roeddwn i'n mynd i weld nain yno byth a hefyd pan yn blentyn.
Mae canfasio'n beth rhyfedd. Roedd gas gen i feddwl am gychwyn arni, ond wedi cychwyn, roedd o'n eithaf hwyl - dod ar draws gwahanol bobl roeddwn yn eu hadnabod fel plentyn, gwahanol Babyddion roeddwn yn arfer mynd i'r Eglwys efo nhw. Holi neu ateb cwestiynau am hwn a'r llall. Siarad ychydig iawn am wleidyddiaeth.
Hwyrach y bydd y busnes i gyd yn fwy o hwyl na mae dyn yn cofio!
Dw i wedi bod yn rhoi tafleni drwy ddrysau Cathays, ond dw i'n rhu swil i gnocio ar ddrysau diarth heb ddigon o wybodaeth am y Blaid i fy nghynnal.
ReplyDelete