Tuesday, January 11, 2005

Drwgweithredwr!



Oes rhywun yn gwybod pwy ydi’r person ofnadwy yma.

Ymddengys iddo gael ei yrru adref nos Sadwrn am dri o’r gloch y bore, mewn car heddlu – goleuadau glas yn fflachio, ei ddwylo wedi eu clymu. ‘Roedd wedi cael hyd i frawd newydd, sef ‘Eifion Tudur’, mab i dditectif yn Heddlu Gogledd Cymru. Nid oedd yn bosibl iddo roi ei enw iawn i’r hogiau am y rheswm yma.

‘Roedd yr heddlu’n flin, yn uffernol o flin. Roeddynt wedi gorfod galw am ‘backup’ ac wedi gorfod deffro’r dyn oedd yn gyfrifol am y cwn. ‘Roedd hwnnw’n fwy blin na’r gleision cyffredin hyd yn oed. Cafodd y ddau eu llusgo i dy’r Doctor Gwion fel petaent wedi cael eu dal yn dwyn pres o focs hel ar gyfer y tsunami.

Beth oedd y weithred ofnadwy a gyflawnwyd gan y ddau ddihuryn ofnadwy felly. Chredech chi fyth – cysgu mewn cwt. Roedd rhan o Fethel wedi ei droi i rhywbeth oedd yn ymdebygu i downtown Chicago, oherwydd bod dau hogyn pymtheg oed yn rhy ddiog i gerdded i lle’r oeddynt i fod wedi treulio’r nos, ac wedi cysgu mewn cwt. I ba beth mae’r byd yn dod?

O leiaf gallwn gysgu’n dawel gan wybod bod ein cytiau’n saff

No comments:

Post a Comment