Sunday, December 19, 2004

Pam eu bod nhw mor dlawd a ninnau yn gyfoethog?

Mae o'n beth rhyfedd bod trwch y boblogaeth yn gymharol gyfoethog mewn nifer gweddol fach o wledydd. Mae'n debyg bod asedau gwerth $9.4 triliwn gan dlodion y trydydd byd a'r cyn wledydd comiwnyddol - dwy waith cymaint o gyfalaf na sydd yn cylchdroi yng nghyflenwad arian yr UDA - neu i edrych arno mewn ffordd arall asedau cyfwerth a'r rhai a gynrychiolir gan gyfnewidfaoedd stoc Efrog Newydd. Tokyo, Llundain, Frankfurt, Toronto, Paris, Milan a'r NASDAQ efo'u gilydd. Eto, mae pawb bron yn dlawd. Pam?

Yn ol Hernando de Soto mae'r rheswm yn syml. Ni all yr holl asedau hyn gynhyrchu cyfalaf oherwydd nad oes iddynt drefn sy'n rhoi cynrychiolaeth gyfreithiol iddynt - ar ffurf dogfennau, marchnadoedd stoc ac ati - sy'n cael eu derbyn gan bawb. Mae'r asedau mewn gwirionedd y tu allan i'r drefn gyfreithiol - ac oherwydd hynny, ni ellir llawn fanteisio arnynt. Eglurir hyn yn llyfr De Soto The Mystery of Capital.

Dim i'w wneud efo agweddau, ethos economaidd, parodrwydd i weithio ac ati - ond popeth i'w wneud efo darnau o bapur sy'n dderbyniol i bawb.

No comments:

Post a Comment